Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2017
Amser:
Times
Not Specified
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4403
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Reg Kilpatrick, Llywodraeth Cymru Julie James AC, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru John Howells, Llywodraeth Cymru Robert Hay, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhianon Passmore AC a Bethan Jenkins AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
· Reg Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
· Rob Hay, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
2.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ddarparu'r canlynol:
· Ffigurau cyffredinol cronfeydd wrth gefn pob awdurdod lleol ar gyfer 2017;
· Dadansoddiad o'r cronfeydd wrth gefn y mae awdurdodau lleol wedi tynnu ohonynt dros y blynyddoedd diwethaf;
· Manylion telerau'r grantiau penodol i ganolbwyntio ar ddigartrefedd yn y Prif Grŵp Gwariant cymunedau a phlant.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
· Julie James, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip
· Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio
· Reg Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
· Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru
· John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru
3.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach am y safleoedd Sipsiwn a Theithwyr newydd i'w hariannu'n gyhoeddus yn 2018-19 pan fydd y wybodaeth ar gael.
3.3 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog Tai ac Adfywio i ddarparu'r canlynol:
· Canfyddiadau'r gwaith dadansoddi yn y dyfodol ar ddata a gesglir ar yr holl addasiadau cartref pan fydd y canfyddiadau ar gael;
· Yr arian a ddyrennir ar gyfer gwaith gorfodi Rhentu Doeth Cymru ac, yn benodol, yr hyn y bydd yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer.
4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd.
4.2.a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Let Down in Wales i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ffioedd i denantiaid yn y sector rhentu preifat.
4.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd Cydbwyllgor y DU ar Fenywod at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd ynghylch hawliau dynol yng Nghymru.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.